Saif capel Bethesda ar gyrion Saundersfoot, ar ochr y ffordd i Ddinbych-y-Pysgod. Rydym yn cyfarfod ar Ddydd yr Arglwydd, am 11yb a 6yh, ac ar ddydd Mawrth ar gyfer Clwb Un Ffordd am 5yh (yn ystod y tymor ysgol) a Chyfarfod Gweddi ac Astudiaeth Feiblaidd am 7yh. Mae Cyfarfod y Chwiorydd, Cyfarfod Gweddi’r Dynion a gwasanaeth yn y cartref henoed lleol yn cael eu cynnal yn fisol.
Mae’r eglwys yn gweithio’n agos gyda’r gymuned sipsi leol ac mae’n addoldy poblogaidd yn ystod yr haf gan fod cymaint o ymwelwyr yn dod i Sir Benfro.