Mae Eglwys Blaencefn yn tystiolaethu bron bob prynhawn Sul am 2yh. Ymunwn ag eglwysi’r ofalaeth adeg y gwyliau Cristnogol ac adeg Cyfarfodydd Blynyddol tair o eglwysi’r ardal. Cawn oedfaon yr aelodau hefyd adeg y Pasg, Sulgwyn a Nadolig a bydd pawb o’r ffyddloniaid yn cymryd rhan. Ugain o aelodau sydd yma.
Byddwn yn cymdeithasu o gylch y byrddau yn ein Oedfa Ddiolchgarwch blynyddol ac adeg y Nadolig os bydd y tywydd yn caniatáu! Mae’r aelodau’n cyfrannu yn hael i’r holl gasgliadau. Mae cydweithio da a chyfeillgar rhwng yr aelodau ac mae pawb yn helpu i gadw’r adeiladau a’r fynwent yn daclus.