Eglwysi

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn un o’r enwadau Cristnogol mwyaf yng Nghymru, gydag oddeutu 20,000 o aelodau a tua 600 o eglwysi. Ein nod yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.

I ddarganfod mwy am leoliad ein capeli cliciwch yma am fap.

Mae gennym ychydig o eglwysi sydd wedi cau sydd ar gael i’w werthu. I weld ein heglwysi sydd ar y farchnad ar hyn o bryd cliciwch yma


Please select the presbytery

Previous page
Gweinidog:
Parch Ian Sims
Presbytery:
Myrddin (cy)
Gwefan:
-
Gwasanaethau:
10:30 & 6:00 (Cymraeg/Welsh)
Rhif Cyswllt
Bill Griffiths (01554 821625)

Mae eglwys Bryn Seion, Llangennech, yn un o wyth eglwys yng Ngofalaeth Arfordir Llanelli. Ein gwenidog yw’r Parch Nicholas Bee a Bryn Seion yw’r eglwys fwyaf dwyreiniol yn yr ofalaeth.

Yn 2010, unwyd eglwys Nasareth, Llwynhendy, gyda Bryn Seion i ffurfio eglwys newydd. Mae gennym 60 o aelodau a chynhelir oedfa bob bore Sul, fel arfer am 10:30yb. Rydym yn cymryd rhan mewn gwasanaethau undebol yn y pentref hefyd, yn enwedig adeg y prif wyliau Cristnogol ac adeg cyrddau pregethu blynyddol y gwahanol eglwysi. Cynhelir dosbarthiadau Beiblaidd undebol bob pythefnos hefyd.

Mae Bryn Seion yn eglwys gynnes a chyfeillgar ac mae croeso i unrhyw aelodau newydd i’n plith.