Lleolir Capel Mawr yng nghanol Porthaethwy, Ynys Môn. Mae’r aelodau yn cynnal cyfarfodydd amrywiol yn ystod yr wythnos yn ogystal â chyngherddau rheolaidd er mwyn codi arian tuag at achosion da. Mae croeso i rai sydd ddim yn aelodau i ddod i’r oedfa Gymraeg ar fore Sul ac mae croeso i blant ddod i’r ysgol Sul, sy’n cyfarfod am 11yb.
