Mae gan Gapel Newydd tua 150 o aelodau ac mae’n rhan o Ofalaeth y Gwendraeth, o dan ofal y Parchedig Ifan Rh. Roberts. Cynhelir oedfa am 2:00yh ar Sul cyntaf y mis a 6:00yh ar y Suliau eraill. Mae ysgol Sul am 10:30yb bob Sul. Cynhelir Cymdeithas yn ystod y gaeaf am 7:15yh ar nos Iau.
Rydym yn cynnal amryw o weithgareddau ar y cyd gydag eglwysi eraill y cylch, gan gynnwys wythnos weddi am Undebol Cristnogol ym mis Ionawr a chyfarfodydd y Grawys.