Mae Eglwys Unedig Tegid a Llanfor, Bala, yn un saith eglwys sy’n ffurfio Gofalaeth Ardal Thomas Charles. Cynhelir oedfa bore Sul am 10yb ac oedfa yr hwyr am 5yh. Mae’r plant yn ymuno ar ddechrau’r oedfa bore ac yna yn mynd allan i’r Ysgol Sul.
Cynhelir cyfarfodydd wythnosol, Cyfarfod Gweddi, Dosbarth Disgyblion Iesu a’r Gymdeithas Lenyddol ar Nos Fawrth am 7-00yh. Mae gennym ddwy Gymdeithas Chwiorydd sy’n cyfarfod unwaith y mis, un yn y prynhawn a’r llall yn yr hwyr. Mae gweithgarwch gyda phlant ac ieuenctid mewn cysylltiad â Choleg y Bala.