Mae dros 250 mlynedd ers sefydlu achos Capel y Dyffryn yn Nh? Modlen.
Cynhelir un gwasanaeth ar y Sul, gyda’r plant yn mynd i’r festri wedi’r gwasanaeth dechreuol i gael ysgol Sul. Cynhelir ysgol Sul yr oedolion o flaen y bregeth. Cynhelir gwasanaethau teuluol yn rheolaidd.
Yn ogystal â’r gwasanaethau ar y Sul, mae yna Gymdeithas lewyrchus sydd yn cyfarfod ar ddwy neu dair nos Lun y mis o fis Hydref i fis Mawrth, gan gynnig rhaglen amrywiol. Cynhelir clwb ieuenctid yr ofalaeth yma ac erbyn hyn mae ganddynt bob math o offer, a threfnir llawer o weithgareddau diddorol ar gyfer y bobl ifanc.
Gweler ein gwefan am fanylion pellach.