Mae Capel y Morfa yn eglwys fyw, deuluol ei naws. Rydym yn cynnal gwasanaethau ac Ysgol Sul ar y Sul a chylch gweddi ac astudiaeth Feiblaidd yn ystod yr wythnos. Yn rhan o’n tystiolaeth yn nhref Aberystwyth rydym yn cynnal Morlan, canolfan ffydd a diwylliant, sydd yn ceisio codi pontydd rhwng yr eglwys a’r gymdeithas. Ceisiwn bob amser ymateb i anghenion trwy fugeilio, croesawu, cyfrannu, gwasanaethu ac estyn cariad yn enw Iesu Grist.
Gweinidog:
Parch Eifion A Roberts
Presbytery:
Ceredigion a Gogledd Penfro (cy)
Gwefan:
Gwasanaethau:
10:00 & 6:00 (Cymraeg/Welsh)
Rhif Cyswllt
01970 624160 / 07969143936
