Eglwysi

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn un o’r enwadau Cristnogol mwyaf yng Nghymru, gydag oddeutu 20,000 o aelodau a tua 600 o eglwysi. Ein nod yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.

I ddarganfod mwy am lleoliad ein capelu cliciwch yma am fap.

Mae gennym ychydig o eglwysi sydd wedi cau sydd ar gael i’w werthu. I weld ein heglwysi sydd ar y farchnad ar hyn o bryd cliciwch yma


Please select the presbytery

Previous page
Gweinidog:
-
Presbytery:
Gorllewin Gwynedd (cy)
Gwefan:
-
Gwasanaethau:
10:00 (Cymraeg/Welsh); 11:15 (English/Saesneg)
Rhif Cyswllt
-

Eglwys ddwyieithog yng Nghricieth, Eifionydd. Mae Presbyteriaid ac Annibynwyr y dref yn addoli gyda’i gilydd yma.

Cynhelir oedfa Gymraeg am 10 y bore ac yna oedfa Saesneg am 11.15 bob bore Sul

Mae Clwb Sul y plant, sy’n llawn bwrlwm, yn cyfarfod am 10 bob bore Sul yn ystod tymor yr ysgol

Rydym yn credu’n gryf mewn cymdeithasu a threfnir amrywiol weithgareddau yn enw’r Eglwys gyda chroeso i unrhyw un ymuno â ni (clicio ar Y Cylchlythyr am fwy o wybodaeth am y math o weithgareddau)

Capel y Traeth yw’r unig gapel Cymraeg yng Nghricieth gydag aelodau Eglwys Jerusalem yn cyd-addoli gyda ni ers 2014

Yn flynyddol, ymdrechwn i godi arian sylweddol er lles eraill yn y gymuned a’r rhai sydd mewn angen drwy’r byd

Trefnir Eisteddfod y Plant yn y festri bob Gwanwyn pryd bydd plant ysgolion y cylch yn mwynhau cystadlu a chael cyfle i lwyfannu a magu hyder