Christchurch yw capel Saesneg Abermaw ac mae’n rhannu adeilad gyda chapel Cymraeg Caersalem.
Lleolir Christchurch yng nghanol tref glan-môr y Bermo. Cynhelir oedfaon ar y Sul am 11yb a 6yh. Mae’r ysgol Sul yn cwrdd yn ystod oedfa’r bore (mae croeso i blant sy’n ymweld) a cheir lluniaeth ar ôl oedfa’r hwyr. Mae croeso i ymwelwyr bob amser. Cynhelir seiat neu astudiaeth Feiblaidd bob nos Fawrth am 8yh.