Cynhelir addoliad Cymraeg am 3.00p.m. bob prynhawn Sul (ond nid yn ystod Awst).
Gweinyddir y Cymun unwaith y mis – fel arfer ar y Sul cyntaf.
Mae’r addoliad o Sul i Sul yn cynnwys cyfnod o fawl a gweddi, a neges ar ffurf pregeth neu gyflwyniad trwy gyfrwng megis powerpoint. Bydd pregethwyr a gweinidogion o eglwysi eraill yn ymweld yn gyson ag Ebeneser ac felly ceir amrywiaeth o fewn yr oedfaon.
Mae croeso cynnes i bawb ymuno gyda ni, a rhoddir pob help i ddysgwyr sydd am glywed y Gymraeg ac ymarfer eu Cymraeg gyda siaradwyr rhugl.
Byddwn yn ymuno gyda’r gynulleidfa Saesneg am oedfa ddwyieithog adeg y Nadolig, dydd Gwener y Groglith, Y Pasg a’r Diolchgarwch. Ceir cydaddoli hefyd gydag Eglwys Mynydd Seion.
Mae’n draddodiad ymuno gyda Chymdeithas Gymraeg Casnewydd ar gyfer oedfa o dan arweiniad plant Ysgol Gymraeg Casnewydd, ac yna mewn Oedfa Garolau ar y Suliau cyn y Nadolig. Ar y Sul cyntaf o Fawrth, cynhelir oedfa yn Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw i ddathlu bywyd a gwaith Dewi Sant, a bydd aelodau Ebeneser yn ymuno gyda’r oedfa hon.
Fel rhan o weithgarwch Henaduriaeth Morgannwg Llundain, bydd aelodau Ebeneser yn mynychu dwy Gymanfa Ganu bob blwyddyn. Mae’r gyntaf fel arfer ar y Sul cyntaf o Dachwedd yng Nghaerdydd ac wedi ei hanelu at yr oedolion, ond ar y trydydd Sul o Fai cynhelir Miri Mawl i blant a theuluoedd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Mae Miri Mawl yn gyfle i’r rhai iau ganu mawl i Dduw mewn idiom fodern i gyfeiliant gr?p.