Mae Capel Ebeneser yn un hardd iawn ac bu’n rhan bwysig o goleg hyfforddi gweinidogion, sef Coleg Clynnog Fawr, yn y gorffennol. Buom yn ddi-weinidog am chwarter canrif ond, ond yn ddiweddar fe wnaethom ymuno â gofalaeth newydd…a chael gweinidog! Mae’r ffyddloniaid yn ffyddlon iawn i’r oedfaon. Mae’r plant oed cynradd yn mynychu ysgol Sul capel Brynaerau. Byddwn yn croesawu pob ymwelwyr yn gynnes iawn.