Mae eglwys Saesneg Ebenezer wedi ei lleoli yng nghanol Hwlffordd, prif dref Sir Benfro. Mae’n enwog am ei chroeso twymgalon
Cynhelir dwy oedfa bob Sul ac mae ysgol Sul yn cyfarfod am 11yb. Cynhelir cyfarfodydd y Chwiorydd am 2:30yh ar ail a phedwerydd dydd Mawrth pob mis ac mae croeso cynnes i aelodau newydd. Mae’r Grwp ‘Outlook’ yn cyfarfod ar yr ail ddydd Mercher yn y mis am 7:30yh ac yn mwynhau cwmni ystod eang o siaradwyr gwadd ac ymweliadau. Cynhelir nosweithiau coffi misol gyda siaradwyr gwadd hefyd, ac mae croeso i bawb.