Sefydlwyd Ebenezer yn 1846 ac mae’n parhau i gynnal tystiolaeth Gristnogol ar y ffin rhwng Sir Henffordd a Phowys. Saif rhwng y Gelli Gandryll a Cheintun ar lwybr Clawdd Offa, ac mae sawl un yn ei adnabod fel ‘Y Capel ar y Clawdd’. Mae llawer o gerddwyr wedi cysgodi ynddo mewn tywydd stormus neu er mwyn cael hoe cyn parhau â’u siwrnai.
Cynhelir Gwasanaeth Pen-blwydd poblogaidd iawn ar y Sul cyntaf ym mis Gorffennaf, gan ddenu cynulleidfa dda, a phryd hynny bydd y bryniau yn atsain i sain cerddoriaeth a mawl.
“Y mae dy air yn llusern i’m troed, ac yn oleuni i’m llwybr.” (Salmau 119:105)