Mae eglwys Penbryn ymysg y mwyaf modern ac addas fel addoldy a chanolfan amlbwrpas i’r gymdeithas ac i aelodau Eglwysi Bro Treffynnon.
Braf yw cyd-addoli mewn capel sy’n ysgafn, clud a golau – addurniaeth minimalist pia hi! Meddwn ar neuadd gyda llawr o dderw Cymreig golau ynghyd a seddau esmwyth i ddal cynulleidfa o 100. Mae gennym gegin, toiledau a stordai modern a phob cyfleuster stadudol.
Cynhelir gwasanaethau ar y Sul ynghyd ag ysgol Sul am 11:15yb, yn ogystal â Chlwb Plant (cynradd) ar nos Fawrth. Hefyd ceir Cymdeithas y Chwaeryddiaeth, Seiat, Dosbarth Astudiaeth Feiblaidd, CYTUN, Marchnata Teg ac yn y blaen. Defnyddir yr adeilad yn helaeth 24/7 gan y gymuned hefyd.
PENBRYN (addaswyd o Rehoboth 2006): llun dyfrliw gan Ken Shone, R.I.B.A; adeiladwyr: WREN Cyf.