Eglwys wedi ei lleoli yng nghanol pentref hynod Llanfairpwllgwyngyll. Mae gan Rhos-y-Gad tua 300 o aelodau a thua 100 o blant. Cynhelir gwasanaethau’r Sul am 10yb a 5yh. Mae ysgol Sul y plant yn gyfochrog â’r gwasanaeth 10 y bore, gyda phawb yn cychwyn yn y Capel. Mae ysgol Sul yr oedolion yn dilyn oedfa’r bore. Mae niferoedd sylweddol yn mynychu’r oedfaon a gweithgareddau eraill yr Eglwys gyda thrawsdoriad da o bob oedran yno.
Mae Rhos-y-Gad yn eglwys gymdeithasol iawn ac yn ymestyn allan i’r gymdeithas leol a’i hadeiladau eang yn cael eu defnyddio’n ddyddiol gan fudiadau amrywiol. Adnewyddwyd yr adeiladau ynghyd â rhoi estyniad yn 2008.
Gweler tudalen Facebook Rhos-y-Gad am wybodaeth am ddigwyddiadau ac ati.