Mae Eglwys Unedig Gymraeg Llandudno yn cynnwys pedwar enwad: Presbyteriaid, Annibynwyr, Wesleaid a Bedyddwyr (PAWB) ond maent yn parhau i berthyn I’w gwahanol enwadau. Yn y flwyddyn 2000, unwyd yn adeiladau Seilo (Presbyteriaid) ac mae holl weithgareddau yr Eglwys Unedig yn cael eu cynnal yno.
Cynhelir nifer o weithgareddau yn wythnosol ond y prif gyfarfod yw’r oedfa ar fore Sul, lle mae tua cant o aelodau yn ymgynnull a daw tua 30 o blant i’r ysgol Sul. Yn wythnosol, cynhelir Cymdeithas Lenyddol, Cyfarfod Gweddi a Hwyl Hwyr y Plant.