Rydym yn eglwys o tua 60 o aelodau ac yn cyfarfod unwaith ar y Sul. Sefydlwyd Eglwys Unedig Seion yn 2018 wrth i gapeli’r Presbyteriaid a’r Bedyddwyr lleol gytuno i uno er mwyn cyd-addoli a chyd-weithio. Mae Ysgol Sul i blant unwaith y mis ac mae Grwp Trafod y Gair i oedolion yn cyfarfod yn achlysurol. Rydym yn gweithio’n agos gyda Chanolfan Gristnogol Ceiriog.
Dilynwch ni ar Facebook: https://www.facebook.com/Eglwys-Unedig-Seion-Glyn-Ceiriog-109344147438852/