Ym mis Mai 2010 ail-agorwyd y capel ar ei newydd wedd ar ol ei ail-drin yn llwyr. Bellach, mae gennym addoldy modern, deiniadol a chyfforddus, ystafell ddefnyddiol ar gyfer Ysol Sul a phwyllgorau (sydd hefyd yn cael ei defnyddio gan y gymuned), cegin a chyflesterau hwylus ynghyd a maes parcio eang.
Rydym yn cynnal ein gwasanaethau am 2yh fel rheol, a chroesawn ymwelwyr. Mae’r Ysgol Sul wedi ail-agor fel y Clwb Dydd Sul ac yn fywiog iawn. Mae’n cyfarfod am 10yb yn ystod tymhorau ysgol – croeso i blant oed cynradd. Bydd Ysgol Gymuned Bodffordd yn cynnal gwasanaethau achlysurol yn y capel.