Eglwysi

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn un o’r enwadau Cristnogol mwyaf yng Nghymru, gydag oddeutu 20,000 o aelodau a tua 600 o eglwysi. Ein nod yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.

I ddarganfod mwy am lleoliad ein capelu cliciwch yma am fap.

Mae gennym ychydig o eglwysi sydd wedi cau sydd ar gael i’w werthu. I weld ein heglwysi sydd ar y farchnad ar hyn o bryd cliciwch yma


Please select the presbytery

Previous page
Gweinidog:
Parch Gwenda Richards
Presbytery:
Arfon (cy)
Gwefan:
Gwasanaethau:
10:00 (Cymraeg/Welsh)
Rhif Cyswllt
Gwawr Maelor (01286 831018)

Sefydlwyd Eglwys Glanrhyd ym 1899. G?r o’r enw Mr Thomas Williams, Gwylfa, roddodd y llain o dir i adeiladu’r capel arno gan y credai y byddai codi eglwys arall yn gaffaeliad ysbrydol i’r ardal. Y gweinidog cyntaf oedd y Parchedig David Williams ac wedi arweiniad ysbrydol pum gweinidog ar ei ôl, sefydlwyd y Parchedig Deian Evans yn weinidog ar ofalaeth Bro Lleu ym mis Hydref 2010.

Mae gan yr eglwys oddeutu 90 aelod ac mae 18 o blant yn mynychu’r ysgol Sul yn selog. Rydym yn ceisio rhoi lle canolog i’r plant yn ei hoedfaon. Manteisiwn fel aelodau ar amryfal weithgareddau o fewn yr ofalaeth pherwydd credwn bod yr eglwys yn rhan o deulu a chymuned Gristnogol ehangach. Gobeithiwn fod drysau’r capel yn agored ac yn fawr ein croeso i bawb ddymuna ddod i addoli gyda ni.