Adeiladwyd capel Gwynfil yn 1760 ar gyfer cymuned o Fethodistiaid Calfinaidd a sefydlwyd yn 1735. Mae gan yr eglwys gysylltiadau cryf iawn â Daniel Rowland (1713-90), curad Llangeitho ac un o sefydlwyr Methodistiaeth Gymraeg. Cafodd y capel ei ailadeiladu neu ei wella yn 1764, 1813 a 1861-3. Y tu allan i’r capel mae cerflun marmor o Rowland.
Heddiw, cynhelir oedfa wythnosol am 10yb neu 5yh ar ddydd Sul.