Mae Capel Hebron ym mhen uchaf Hen Golwyn gydag aelodaeth o tua 160 oedolyn a 40 o blant. Mae oedfa’r Sul am 10yb a chynhelir yr ysgol Sul yr un pryd – wedi i’r plant fod yn y rhan ddechreuol o’r gwasanaeth.
Mae’r ysgol Sul yn fywiog a phrysur gyda dosbarthiadau yn ymestyn o adran feithrin i’r rhai lleiaf un, hyd at adran i ddisgyblion uwchradd. Hebron yw’r unig gapel gydag ysgol Sul yn yr ardal, ac felly bydd plant o enwadau eraill yn ymuno â ni ac yn cefnogi’r holl weithgaredd, gan gynnwys Pasiant y Nadolig (ac ymweliad Sion Corn!).
Cynhelir Dosbarth Beiblaidd yn wythnosol fore Llun ar y cyd â’n chwaer eglwys sef Capel y Rhos, Bae Colwyn. Mae’r Chwiorydd yn cyfarfod yn rheolaidd drwy’r gaeaf gyda rhaglen amrywiol a diddorol ac mae’r Eglwys yn rhan o Gymdeithas Bro ac Eglwysi Colwyn, sydd hefyd yn cyfarfod drwy dymor y gaeaf.