Lleolir Jewin yng nghanol ardal y Barbican, nid nepell o Ddinas Llundain.
Cynhelir dau wasanaeth bob Sul. Yn ogystal, mae gan Jewin Gymdeithas Lenyddol sy’n cyfarfod bron bob nos Fawrth rhwng Hydref a Mawrth am 7:15yh. Cynhelir cyfarfod gweddi unwaith y mis, cyn cyfarfod y Gymdeithas Lenyddol fel rheol.