Saif capel Llwynpiod ar ochr ffordd Rufeinig Sarn Helen (B4578) rhwng Llanio a Thyncelyn yn Sir Geredigion. Mae gan y capel 23 o aelodau, yn cynnwys 4 blaenor.
Mae gwreiddiau’r capel yn dyddio’n ôl tua 350 o flynyddoedd i fferm gyfagos o’r enw Llwynrhys. Byddai cynulleidfa o anghydffurfwyr yn cyfarfod yno’n rheolaidd ar adeg pan nad oedd ymneilltuaeth grefyddol yn cael ei goddef.
Erbyn diwedd yr 17eg ganrif, roedd Llwynrhys yn un o grwp eglwysi Presbyteraidd Cilgwyn. Daeth Phylip Pugh (1679-1760) yn arweinydd eglwysi Cilgwyn ac yn un o ffigyrau mwyaf dylanwadol anghydffurfiaeth yn y 18fed ganrif. Yn 1753 talodd am adeiladu capel newydd yn Llwynpiod, yn lle’r hen fan cyfarfod yn Llwynrhys.
Yn 1762 penodwyd y Parch Thomas Grey (1733-1810) yn weinidog ar gapeli Llwynpiod ac Abermeurig. Roedd yn gyfaill agos i’r diwygiwr Methodistaidd Daniel Rowland,Llangeitho,
Adeiladwyd yr adeilad presennol yn 1803 ac fe ddathlwyd 200 mlynedd hynny ym mis Hydref 2003.
Yn ddiweddar, gosodwyd bwrdd arddangos ar fur allan y capel yn nodi peth o hanes Taith y Cilgwyn fel rhan o deithiau ffydd Ceredigion.