Eglwysi

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn un o’r enwadau Cristnogol mwyaf yng Nghymru, gydag oddeutu 20,000 o aelodau a tua 600 o eglwysi. Ein nod yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.

I ddarganfod mwy am leoliad ein capelu cliciwch yma am fap.

Mae gennym ychydig o eglwysi sydd wedi cau sydd ar gael i’w werthu. I weld ein heglwysi sydd ar y farchnad ar hyn o bryd cliciwch yma


Please select the presbytery

Previous page
Gweinidog:
Revd Moon Sook Choi
Presbytery:
South West Wales (cy)
Gwefan:
-
Gwasanaethau:
11:00 & 6:30 (English/Saesneg)
Rhif Cyswllt

Mae Mission Hall yn eglwys brysur sydd â thua 50 aelod. Yn ein gwasanaethau, byddwn yn defnyddio’r Beibl NIV ar y gyfan, ac yn canu ystod o ganeuon, o’r hen iawn i’r cyfoes. Bob wythnos mae cyfarfodydd rheolaidd yn yr adeilad. Mae nifer dda yn cyfarfod ar gyfer mawl a gweddi ar nos Lun, mae gan y chwiorydd gyfarfod ar brynhawn dydd Mawrth ac ar fore Gwener mae gr?p bychan yn cyfarfod i weddïo ac i gynnal bore coffi. Rydym yn cynnal Astudiaeth Feiblaidd bob yn ail nos Fawrth a seiat fisol ar nos Iau. Mae’n hysgol Sul yn llewyrchus iawn ac yn cyfarfod bob bore Sul am 11, yn ystod yr addoliad arferol; fodd bynnag, ar rai adegau byddwn yn cyfuno’r ddau drwy gynnal ‘addoliad i bob oed’, gwasanaeth sy’n fywiog, cyfoes, creadigol ac yn canolbwyntio ar y plant.

Mae Mission Hall yn un o ddwy eglwys Bresbyteraidd yng Nghastell Nedd (London Road yw’r un arall).