Mae croeso cynnes i unrhywun sy’n dymuno dod i’n oedfa Sul foreol am 11:15yb. Unwaith y mis, byddwn yn cynnal gwasanaeth cymun ar y cyd gyda’r eglwysi Presbyteraidd eraill yn yr ardal. Mae gwybodaeth am y dyddiadau, amseroedd a’r lleoliadau i’w cael ar hysbysfwrdd y capel. Cynhelir astudiaeth Feiblaidd ar ddydd Mawrth am 10:30yb a Seiat anffurfiol ar ail ddydd Iau y mis am 2:30yh. Mae croeso cynnes i bawb.
Byddai cynulleidfa Bresbyteraidd gyntaf Trefaldwyn yn cyfarfod mewn tai a busnesau cyn mynd i adeilad newydd ar School Lane (Heal Hall, cartref preifat, bellach) ar ddydd Nadolig 1824. Agorwyd y capel presennol ar Princes Street yn 1885. Ni newidwyd fawr arno dan 2002, pan symudwyd wal y pulpud ymlaen i wneud lle i oruwchystafell a chegin fechan. Yn ystod y gwaith hwn, darganfuwyd llythyr gan gyn-weinidog tu ôl i gofeb ar y wal. Rhestrai’r nifer o aelodau oedd wedi mynd i’r Rhyfel Byd Cyntaf a mynegai ddymuniad am gael gweld heddwch drwy’r byd yn fuan. Wedi i’r gwaith gael ei orffen, rhoddwyd y llythyr yn ôl ynghyd â llythyr arall yn rhoi gwybodaeth am gyflwyr y capel a’r byd. Gellir gweld y gofeb uwch grisiau’r capel a gellir gweld lluniau o’r gwaith atgyweirio hefyd.