Eglwysi

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn un o’r enwadau Cristnogol mwyaf yng Nghymru, gydag oddeutu 20,000 o aelodau a tua 600 o eglwysi. Ein nod yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.

I ddarganfod mwy am leoliad ein capelu cliciwch yma am fap.

Mae gennym ychydig o eglwysi sydd wedi cau sydd ar gael i’w werthu. I weld ein heglwysi sydd ar y farchnad ar hyn o bryd cliciwch yma


Please select the presbytery

Previous page
Gweinidog:
-
Presbytery:
South East Wales (cy)
Gwefan:
-
Gwasanaethau:
11:00 (English/Saesneg)
Rhif Cyswllt
Pearl Hughes (01873 840445)

Adeilad syml mewn llecyn heddychlon yng ngefn gwlad Sir Fynwy yw Moserah. Er bod y gynulleidfa yn oedrannus, mae’n groesawgar iawn ac mae croeso cynnes i bawb. Mae addoliad ar y Sul yn gyfuniad traddodiadol o emynau a darlleniadau, tra bo Cinio a Gweddi ar ddydd Mercher yn gyfle i fwynhau cyfeillgarwch ac astudiaeth Feiblaidd. Mr John Morrow yw arweinydd yr eglwys.