Nasareth yw’r ‘Fam Eglwys’ ym Mhenrhyndeudraeth, yn dyddio’n ôI i 1777.
Cynhelir oedfaon yn rheolaidd bob Sul, gan gynnwys ysgol Sul y plant a’r oedolion yn y prynhawn. Cynhelir Cymdeithas Lenyddol bob pythefnos rhwng mis Tachwedd a Mawrth. Yn ogystal, mae Cyfarfod Pregethu ar yr ail Sul ym Mehefin, Cyfarfod Gweddi dechrau’r flwyddyn ac oedfaon arbennig adeg Diolchgarwch, Nadolig a’r Pasg.
Cynhelir Oedfa Undebol unwaith y mis yn un o’r tair eglwys yn y Penrhyn yn eu tro. Trefnir Cyfarfod Gweddi Chwiorydd y Byd gyda’r eglwysi eraill yn flynyddol, Gwasanaeth o Fawl ar y Sul cyntaf o Fai a Gwasanaeth Carolau Undebol ar y Nadolig. Mae’r eglwysi’r Penrhyn yn trefnu casgliad Cymorth Cristnogol yn flynyddol.