Mae Noddfa yn Eglwys Gymunedol wedi ei lleoli yng Nghanolfan Noddfa, Peblig, Caernarfon. Rydym yn eglwys fywiog, anffurfiol a chroeswgar sy’n gwasanaethu’r ardal leol.
Beth sydd yn mynd ymlaen? Dyma rai o’r digwyddiadau cyson:
- Oedfa ac ysgol Sul bob Sul.
- Oedfa deulu unwaith y mis.
- Cyfarfodydd gweddi.
- Dathliadau a diwrnodau arbennig fel Parti’r Pentecost, Hwyl yr Haf a llawer mwy!
- Clybiau plant a phobl ifanc yn rhad ac am ddim.
- Gwasanaeth cyngor a chymorth, materion budd-daliadau, dyledion a chynilo.
- Cynlluniau Chwarae Pasg a gwyliau’r haf.
- Te bach am 2:30yh ar brynhawn Llun olaf y mis, am ddim i unrhyw un sydd yn dymuno ymuno!
- BARA: gwasanaeth cefnogi cyn-garcharorion, carcharorion a’u teuluoedd, a bws ymweliadau i’r carchar.
- Clwb Tlws – Clwb i ferched 11+ yn cyfarfod bob Nos Lun am 5
- Clwb Cic i blant 7-11 oed yn cyfarfod Bob Nos Iau am 5:30
- Grwp Drocas yn cyfarfod bob yn ail dydd Iau am 1:30
…a drws agored i bawb!
Mae dwy weithwraig llawn amser yn y swyddfa sy’n cael eu cyflogi gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Dewch draw i gyfarfod Llinos a Mererid neu codwch y ffon: 01286 672257.