Rydym yn gynulleidfa fechan ond groesawgar sy’n cyfarfod i addoli bob Sul am 2yh, ac yn rhannu gweinidog ag eglwysi Presbyteraidd cyfagos. Mae’r ysgol Sul yn cyfarfod bob pythefnos am 10yb ac rydym yn cynnal gwasanaethau teuluol achlysurol a gwasanaethau i ddathlu’r gwyliau Cristnogol. Byddwn yn cynnal cyfres o gyfarfodydd yn ystod yr wythnos bob gaeaf.
Mae’r capel ar gael ar gyfer bedydd, priodasau ac ati. Gellir olrhain hanes y capel yn ôl i ddyddiau Howell Harris a sefydlu’n henwad.
Ewch i’n tudalen Facebook i gael rhagor o wybodaeth, digwyddiadau a mwy: https://www.facebook.com/groups/313328799640927