Eglwys o dan ofal y Parchedig Carwyn Arthur. Cynhelir addoliad bob Sul.
O fuarth y capel gellir gweld Yr Hendre, sef hen gartref y Parchedig Phylip Pugh. Ef oedd cyd-weinidog ac arweinydd cylchdaith Y Cilgwyn un tro, cyn ffurfio’r enwadau Cymraeg. Ef hefyd oedd mentor y Daniel Rowland cynnar a’i gynghorydd ar gynnwys pregethau a dulliau pregethu. Dywedir iddo drwyddedu adeiladau fferm Yr Hendre i fod yn addoldy a chred rhai bod golwg addoldy arnynt. Bu pulpud yn y ffermdy tua hanner can mlynedd yn ôl bron yn sicr.
Allan o waith Pugh a’i gyd-weinidogion ar Daith y Cilgwyn (5 safle gyda dau weinidog man lleiaf ar y tro) y tyfodd capel Penial. Holltodd yr eglwys hon yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif gan esgor ar eglwys Blaenafon. Adunwyd y ddwy eglwys yn 2007, prin ganrif wedi eu hollti.
Un o emynau Phylip Pugh yw rhif 638 yn ‘Caneuon Ffydd’. Mae taflen ar Daith y Cilgwyn ar gael ym Mhenial a Llwynpiod neu trwy’r Parchredig Carwyn Arthur, y gweinidog. Mae Taith y Cilgwyn yn daith diwrnod hwylus os am drip neu bererindod!