Peniel Newydd yw’r unig gapel ym mhentref Llanegryn. Fe wnaeth sefydlwyr y capel adeiladu tri adeilad: capel, ty capel a festri – ond erbyn dechrau’r milflwydd newydd roedd y tri wedi dirywio i gyflwr digon bregus. Gwerthwyd yr hen gapel a’r ty capel ac addaswyd y festri yn addoldy cartrefol, cyfoes a chyfforddus. Agorwyd Capel Peniel Newydd a chynhaliwyd gwasanaeth o Ddiolchgarwch ar 11 Tachwedd 2007. Roedd y freuddwyd wedi ei gwireddu.
Lluniau gan y diweddar Mr Carrol Hughes, Llanegryn.