Saif y capel, sy’n dyddio’n ôl i 1910, mewn safle godidog. Mae wedi ei adeiladu yn y dull Gothig ac mae wedi ei gofrestru gan CADW (gradd 2) fel adeilad o safon arbennig.
Mae 31 o aelodau brwdfrydig a gweithgar. Cynhelir gwasanaeth am 11:15yb bob Sul a chroesawir unrhyw un i ymuno gyda ni. Sefydlwyd ‘Cyfeillion Peniel’, yn 2005, sef cymdeithas i geisio dod â’r capel yn nes at y gymuned. Mae hyn wedi llwyddo ac rydym wedi codi arian tuag at achlusion da yn lleol.