Eglwys drefol, gynnes a chyfeillgar. Eglwys sydd wedi bod yn gartref ysbrydol i nifer fawr o genhadon tramor yr enwaddros y blynyddoedd. Gwerthfawrogwn gwmni a chyfraniad y plant ac rydym bob amser yn ceisio cael mwy o Gymry’r dref o bob oed i ymuno â ni.
Mae croeso mawr i bob gweledigaeth newydd a fuasai’n ehangu a dyfnhau ein gweinidogaeth a’n cenhadaeth, ac yn bendant, mae’r grwpiau addoli newydd o’n mysg yn cyfoethogi ein tystiolaeth.