Mae yna tua 70 o aelodau yn Rhydfendigaid, a nifer o Garedigion yr Achos. Rydym yn cynnal gwasanaeth boreol bob Sul am 10 y bore. Mae yna Ysgol Sul lewyrchus iawn, gyda 24 o blant yn mynychu’n gyson. Tair o flaenoriaid sydd yma erbyn hyn, ac mae yma dair athrawes Ysgol Sul. Mae’r Ysgol Sul yn cynnal gwasanaethau i ddathlu Gwyl Ddewi, Y Pasg, Cwrdd Diolchgarwch, a’r Nadolig. Rydym yn ffodus fod ein cyn-weinidog, Y Parch Lewis Wyn Daniel yn aelod yn Rhydfendigaid, ac yn cymryd at y gwasanaeth unwaith y mis.
Gweinidog:
Lewis Wyn Daniel (Gwirfoddol / Voluntary)
Presbytery:
Ceredigion a Gogledd Penfro (cy)
Gwefan:
Gwasanaethau:
10:00 neu/or 5:00 (Cymraeg/Welsh)
Rhif Cyswllt
01974 831695
