Rydym bellach yn dathlu 125 o flynyddoedd ers i’r achos hwn gael ei sefydlu. Cynhelir ein oedfaon am 10:30yb a 6yh ar y Sul.
Mae’r Parchedig Gareth Roberts yn pregethu yma ar ddau Sul bob mis ac yn ymweld ag amrywiaeth o eglwysi eraill – rhai anghydffurfiol yng ngogledd Cymru a glannau Merswy yn bennaf – ar Suliau eraill. Mae gennym ysgol Sul fechan ac rydym yn cynnal dau gr?p wythnosol (un i ferched ac un i bawb). Rydym yn cymryd rhan yng ngweithgareddau Cytûn Rhuthun, yn enwedig yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol. Mae’r eglwys mewn lleoliad cyfleus yng nghanol y dref ac mae gwasanaeth bws da, hyd yn oed ar y Sul.