Er mai cynulleidfa fach ydym, mae gennym galon fawr. Mae croeso i bawb ymuno â’n gwasanaethau a’n gweithgareddau.
Mae Seion yn rhan o Ofalaeth Bae Colwyn. Cynhelir gwasanaethau yn Seion ar Sul cyntaf a thrydydd Sul y mis, a gwasanaethau ar yr ail a’r pedwerydd Sul (a’r pumed Sul, yn achlysurol) yn ein chwaer eglwys ar Hawarden Road, Bae Colwyn, a hynny am 11yb.