Rydym yn gyfuniad hapus o eglwysi Bedyddiedig, Diwygiedig Unedig a Phresbyteraidd a unodd yn 2002. Mae’r brif eglwys ar y gyffordd rhwng Gelliwastad Road a Penuel Lane, ac mae Church House ar Mayfield Road.
Ymysg gweithgareddau’r eglwys mae Clwb Plant (nos Fawrth am 6yh) a Gr?p Ieuenctid (nos Iau am 7:30yh), sy’n cael eu cynnal yn Church House. Hefyd mae Chwiorydd (dydd Mercher am 2yh) a Bar Coffi gyda chacennau cartref a chyfle i wneud cardiau (dydd Sadwrn rhwng 10yb-12yh) yn y brif eglwys. Rydym yn eglwys Masnach Deg ac mae gennym lu o gysylltiadau â’r gymuned.