Dewch I addoli gyda ni pob Sul- mi gewch chi groeso cynnes iawn!. Cynhelir gwasanaethau am 10.30 ar fore Sul a 6.00 ar nos Sul. Arweinir yr addoliad gan ein gweinidog, y Parch. Gareth Roberts- fel rheol ar yr ail a’r pedwerydd Sul yn y mis, gyda phregethwyr lleol eraill yn ein cynorthwyo ar Suliau eraill. Cawn y Cymun Bendigaid ar yr ail Sul o bob mis, a gynhelir bob yn ail yn ystod y gwasanaethau boreol a nosweithiol.
St Thomas ydi’r prif Eglwys Rydd Cyfrwng Saesneg yn Ninbych ac mae’n denu pobl o gefndiroedd Cristnogol amrywiol. Dydi ymlyniad enwadol ddim mor bwysig a hynny yn St.Thomas: mae’n bwysicach I ni ddangos caredigrwydd, ewyllys da a dysgu’r Newyddion Da am Iesu Grist. Mae gan St.Thomas enw da yn y dref am fod yn eglwys fywiog a gweithgar.
Eglwys Iau
Mae’r Eglwys Iau yn darparu ar gyfer plant bach hyd at bobl ifanc. Mae’r Eglwys Iau yn ymuno gyda’r gynulleidfa ar ddechrau’r addoliad ac yn gadael wedi’r ail emyn. Mae yna ddau ddosbarth, Plant Bach/Plant Hyn. Gyda chaneuon, crefftau, straeon a mwy, mae’n gyfle gwych I blant ddysgu am Iesu.
Llan Llanast
Cynhelir Llan Llanast pob ail Sul yn y mis 2.30-5.00
Gild
Mae Gild Eglwys St Thomas ar agor i ddynion a merched o bob oed ac yn achlysur misol pryd bydd siaradwyr gwadd yn annerch ar wahanol bynciau.
Hefyd, ceir sawl trip a digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer yr aelodau. Edrychwch ar ein “Digwyddiadau ar y Gweill” ar ein gwefan os hoffech fwy o fanylion.
Mae’r Gild yn cyfarfod ar y trydydd dydd Mawrth pob mis am 7.30