Mae gennym gynulleidfa fechan o ran aelodaeth ond nifer dda o gyfeillion.
Ar y Sul, rydym yn cynnal gwasanaeth bywiog am 10:30yb ac mae’r ysgol Sul yn cyfarfod am 2:30yh. Mae cyfarfod gweddi am 5:15yh a gwasanaeth traddodiadol am 6yh. Unwaith y mis, rydym yn cynnal Clwb Iesu a Fi yn yr ysgol leol am 6yh ar ddydd Mawrth. Mae’r Clwb Cyfeillgarwch Saesneg ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol o Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn cyfarfod am 2:30yh ar ddydd Mercher. Ar ddydd Iau mae Astudiaeth Feiblaidd am 6:30yh ac mae Clwb Ieuenctid Terrace Road yn cyfarfod am 7yh ar nos Wener. Cynhelir gweithgareddau eraill drwy drefniant.