Eglwysi

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn un o’r enwadau Cristnogol mwyaf yng Nghymru, gydag oddeutu 20,000 o aelodau a tua 600 o eglwysi. Ein nod yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.

I ddarganfod mwy am leoliad ein capelu cliciwch yma am fap.

Mae gennym ychydig o eglwysi sydd wedi cau sydd ar gael i’w werthu. I weld ein heglwysi sydd ar y farchnad ar hyn o bryd cliciwch yma


Please select the presbytery

Previous page
Gweinidog:
-
Presbytery:
Mid Wales & Border (cy)
Gwefan:
-
Gwasanaethau:
9:30 (English/Saesneg)
Rhif Cyswllt

Mae eglwys y Crescent yn cyfarfod mewn adeilad a gafodd ei adnewyddu yn 2008. Mae’n rhannu’r adeilad gyda dwy gynulleidfa arall, gan gynnwys eglwys Gymraeg Bethel. Mae yma gyfleusterau technolegol cyfoes, gan gynnwys taflunydd a sgrin wedi eu hintegreiddio, band llydan, recordio, system ddolen ayyb. Mae yma gegin fawr, gyfoes. Mae’r adeilad yn cael ei ddefnyddio’n gyson yn ystod yr wythnos ac mae ar gael at ddefnydd y gymuned ehangach.