Eglwysi

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn un o’r enwadau Cristnogol mwyaf yng Nghymru, gydag oddeutu 20,000 o aelodau a tua 600 o eglwysi. Ein nod yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.

I ddarganfod mwy am leoliad ein capelu cliciwch yma am fap.

Mae gennym ychydig o eglwysi sydd wedi cau sydd ar gael i’w werthu. I weld ein heglwysi sydd ar y farchnad ar hyn o bryd cliciwch yma


Please select the presbytery

Previous page
Gweinidog:
-
Presbytery:
South East Wales (cy)
Gwefan:
-
Gwasanaethau:
11:00 (English/Saesneg)
Rhif Cyswllt

Sefydlwyd yr achos yn Nhrehill ym Mro Morgannwg yn dilyn gwahoddiad personol gan Howell Harris, arweinydd carismataidd y Diwygiad Methodistaidd Cymreig yn y 18fed ganrif ac un o sylfaenwyr Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Adeiladwyd yr adeilad presennol yn 1873 ond dechreuwyd yr achos yn 1740 pan wnaeth Howell Harris o Drefeca sefydlu ‘cymdeithas’ mewn ty cyfagos.

Cliciwch yma i lawrlwytho taflen gan Jean Silvan Evans o Drehill ynglyn â hanes difyr yr eglwys.