Adeilad rhestredig Gradd 2 (CADW) a adeiladwyd yn 1817 gan y Foneddiges Barham. Rydym yn cynnal gwasanaeth boreol am 10yb ar y Sul cyntaf, y trydydd a’r pedwerydd bob mis. Ar yr ail Sul, rydym yn cyfarfod ar gyfer gwasanaeth teuluol yn eglwys Burry Green. Mae’r Trinity Singers yn ymarfer yn y capel am 7:30yh bob nos Fawrth. Rydym yn cynnal gwasanaethau arbennig ar adegau penodol o’r flwyddyn ac mae gennym ddiwrnod agored ar y Sul cyntaf ym mis Gorffennaf.
Mae Trinity yn rhan o Ofalaeth Gwyr, sydd hefyd yn cynnwys Crofty, Old Walls, Burry Green a Phenclawdd.