Tynewydd oedd yr achos Methodistaidd Calfinaidd cyntaf yn yr ardal. Adeiladwyd y capel gwreiddiol yn 1765 ac fe’i ailadeiladwyd yn 1822 i ddal 600 o bobl. Cafodd y capel hwnnw ei ddymchwel yn 1953 ac adeiladwyd capel newydd, ond cadwyd y festri wreiddiol.
Roedd y cyfansoddwr enwog o Gymro, David Jenkins (1845-1915) yn dod o Drecastell ac fe’i claddwyd ym mynwent y capel. Mae’r achos yn rhan o ofalaeth y Parchedig David Jenkins a Mr Philip Evans yw’r ysgrifennydd a’r trysorydd.