Eglwys fechan wledig (sydd ag Eglwys Iau lai fyth) ger yr A48 (wrth yr Aubrey Arms) ym Mro Morgannwg. Rydym yn rhan o ofalaeth o dair eglwys (ynghyd â Hope/Penuel a Bethania). Rydym i gyd yn dod ynghyd i fwynhau oedfaon arbennig a gweithgareddau cymdeithasol, yn cynnwys penwythnos i ffwrdd ym mis Mehefin. Mae croeso mawr i deuluoedd ifanc ddod gyda ni.
Yn ogystal â’n gwasanaeth Sul boreol am 11yb (a gwasanaeth fin nos am 6yh ar Sul cynta’r mis rhwng Ebrill a Thachwedd), rydym yn cynnal cyfarfod min nos bob yn ail nos Fercher yn ystod y gwanwyn/haf, pryd y byddwn yn croesawu siaradwyr atom. Rydym yn ceisio codi arian i elusennau lleol a thrydydd-byd. Mae’n niferoedd yn lleihau ond gallwn fod yn sic y bydd croeso cynnes iawn i mi os ymunwch â ni yma yn nh? Duw.