Sefydlwyd ein heglwys yn 1884. Mae’n eglwys fechan a chyfeillgar sy’n cyfarfod yng nghanol pentref Crofty. Mae gennym faes parcio helaeth yng nghefn yr adeilad. Mae croeso cynnes i ymwelwyr.
Cynhelir gwasanaethau Sul ar 10.45 ac am 5.45 gyda dosbarth beiblaidd ar gyfer oedolion am 2.45. Ar ddydd Llun, cynhaliwn astudiaeth feiblaidd ar gyfer Merched mewn amrywiol gartrefi lleol. Ar ddydd Mawrth olaf y mis, mae’r Merched yn cyfarfod am ginio a gweddi yn Tabernacl, Penclawdd am 2.30.
Ar ddydd Mercher, cynhaliwn gyfarfod gweddi ac astudiaeth feiblaidd yn Crofty, Old Walls, Burry Green ac ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis, ceir amser gweddi breifat rhwng 11.00 ac 11.30.