Ein Cenhadaeth

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn creu cysylltiadau gyda phobl o wahanol gefndiroedd yng Nghymru a thu hwnt, gan ddangos cariad Duw a’i le ym mywydau pobl. 

Mae ein heglwysi lleol yn ganolog i’n cenhadaeth. Maent yn gweithio o fewn eu cymunedau, yn estyn allan mewn amrywiol ffyrdd. Mae’r Eglwys yn ganolog yn eu cynorthwyo trwy ddarparu hyfforddiant a gweithwyr penodol.

Mae’r Eglwys yn rhannu ei neges mewn ffyrdd eraill hefyd.

  • Mae nifer o eglwysi, gofalaethau a Henaduriaethau yn cyflogi gweithwyr i gefnogi agweddau penodol o’u cenhadaeth. Mae’r gweithwyr lleol hyn yn cynnwys Gweithiwr Rhyng-grefyddol, Swyddog Hyfforddiant a Datblygu a Gweithwyr Cristnogol Cymunedol.
  • Mae ein Galluogwyr Cenhadol yn gwasanaethu gofalaethau penodol am gyfnod o amser, gan gynorthwyo’r eglwysi hynny i ddatblygu eu cenhadaeth. Mae’r gweithwyr hyn yn dod o Singapore a gogledd-ddwyrain yr India ac maent yn gweithio yn ardal Abertawe a Glyn Ebwy. Maent yn cael eu noddi trwy Gyngor y Genhadaeth Fyd-eang (Council for World Mission) (CWM).
  • ‘Rydym yn buddsoddi’n sylweddol mewn plant ac ieuenctid.

Eciwmeniaeth a’r Eglwys fyd-eang 

Mae Eciwmeniaeth yn ymwneud â gwahanol ganghennau yr Eglwys Gristnogol yn gweithio ynghyd tuag at undod llawnach. Mae llawer o’n heglwysi yn gweithio gydag eglwysi o enwadau eraill, ac mae nifer cynyddol yn dod yn rhan o ofalaethau cydenwadol. ‘Rydym hefyd yn cefnogi prosiectau eciwmenaidd mewn gwahanol rannau o Gymru ac yn rhan o weithgarwch Pabell yr Eglwysi mewn digwyddiadau megis yr Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Amaethyddol Cymru ac Eisteddfod yr Urdd.

Cytûn

Cadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn Cytûn drwy ddarllen eu cylchlythyr yma:

Cylchlythyr Cytûn – Haf 2017

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gweithio gyda Christnogion o sawl traddodiad Cristnogol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r Byd. ‘Rydym yn aelod o’r partneriaethau eciwmenaidd canlynol: