Cwnselydd K ward, Ysbyty Durtlang, Mizoram
Mae Dr Dina yn gweithio fel Cwnselydd ar Ward K, sy’n trin cleifion sy’n dioddef o ddibyniaeth ar sylweddau. Mae dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn broblem enfawr ym Mizoram. Darllen mwy

HIV/Aids Lesotho
Dr Graham Thomas, Y Bala sefydlodd yr elusen HIV Lesotho yn 2012 yn dilyn ymweliad â Lesotho gan deulu’r Thomasiaid pan gawson nhw eu cyffwrdd wedi cyfarfyddiad annisgwyl gyda dwy ferch ifanc. Roedd y ddwy yn byw heb oedolyn, heb fwyd a heb incwm. Ers sefydlu’r elusen mae’r teulu wedi bod yn codi arian a chyd-weithio gyda’r eglwys leol. Hefyd, mae Dr Graham wedi cynorthwyo cychwyn clinigau ar gyfer TB a HIV/Aids – rhai ohonynt mewn ardaloedd anghysbell – gyda timoedd o nyrsus yn teithio ar draws gwlad ar geffylau er mwyn eu cynnal. Darllen mwy

Reaching Romania
Mae Irene Phillips yn aelod yng nghapel y Watton, Aberhonddu ac mae hefyd yn un o ymddiriedolwyr yr elusen Reaching Romania. Rydym ni, chwiorydd EBC, wedi bod yn cefnogi’r prosiect Widow’s Mite sy’n ceisio cynorthwyo gweddwon tlawd iawn. Darllen mwy

Cornerstone Uganda
Elusen sy’n cefnogi dynion ifanc yn Uganda yw Cornerstone. Sefydlwyd yr elusen gan Sara a Nancy, dwy aelod yn Siloh, Gelligroes ar ôl sylweddoli yr angen sydd gan ddynion ifanc a oedd wedi cael ei magu mewn cartrefi gofal, i dderbyn cefnogaeth ar ôl troi’n 18 mlwydd oed. Darllen mwy

English Presbytery Japan Mission EPJM (Presbyterian Church of Singapore)
Mae EPJM wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â 3-11 Iwate Church Network am y 9 mlynedd ddiwethaf, yn dilyn trychineb y tsunami a ddigwyddodd yn Nwyrain Siapan yn 2011. Mae timau yn mynd i Siapan i gynorthwyo’r eglwysi lleol yn eu hymdrechion i wasanaethu eu cymunedau a cyflwyno’r Efengyl. Darllen mwy
