Mae Is-bwyllgor y Chwiorydd yn adran weithgar iawn o Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Mae llawer o’r chwiorydd yn gweithio’n ddiwyd iawn o fewn eu heglwysi, dosbarth a Henaduriaeth, yn cyfrannu mewn sawl ffordd at fywyd yr Eglwys.
Ein nod: yw tystiolaethu’n effeithiol a pherthnasol i Iesu Grist yng nghyd-destun y Chwiorydd. Trwy eu harwain a’u cynorthwyo i dyfu yn ei ffydd ac i dystiolaethu a gwasanaethu yn lleol ac i estyn allan yn fyd-eang.
Swyddogion 2021-22
Christine Hodgins, Mancot – Llywydd
Sarah Morris, Llandysul – Ysgrifennydd a Chydlynydd Rhaglen Dorcas y De
Carys Davies, Llangefni – Cydlynydd Rhaglen Dorcas y Gogledd
Parch Nan Powell Davies, Yr Wyddgrug – Swyddog Gweinidogaethau
Eirian Roberts, Y Bala – Trefnydd Gwaith y Chwiorydd
DATGANIAD
Llawenhawn yn Rhagluniaeth Duw
ein Tad nefol,
yr Hwn a’n creodd
ac a’n galwodd trwy ei ras.
Down i berthynas fyw â’n Tad nefol
trwy fywyd, marwolaeth
ac atgyfodiad Iesu Grist.
Cyffeswn Iesu Grist