Sasiwn Genhadol

Bob blwyddyn, ym mis Mai, cynhelir Sasiwn Genhadol o fewn y pedair sasiwn.

Mae’r Sasiwn yn achlysur arbennig iawn, yn gyfle i’r chwiorydd ddod ynghyd i foli’r Arglwydd. Ynddynt hefyd ceir cyfle i gofio am y cenhadon hynny a dystiodd i’r Efengyl mewn ardaloedd pellennig megis Mizoram a Bryniau Casia ac i ddiolch amdanynt. Gwahoddir siaradwyr i’r Sasiynau hefyd ac mae hyn yn gyfle i amlygu gwaith cenhadol gweithwyr presennol yr Eglwys.

Ffilm Sasiwn y Gogledd